Credyd Cynhwysol a landlordiaid

4. Porth Landlordiaid

Beth yw’r Porth Landlordiaid?

Mae’r Porth Landlordiaid Credyd Cynhwysol yn gadael i landlordiaid y sector rhentu cymdeithasol i ddilysu rhent ac anfon ceisiadau am daliad wedi’i reoli ar-lein, yn hytrach na trwy e-bost.

Drwyddo gall landlordiaid y sector rhentu cymdeithasol:

  • ddilysu costau tai tenant
  • wneud cais am Daliad Wedi’i Reoli i Landlord (MPTL)
  • ofyn am ddidyniad ar gyfer ôl-ddyledion rhent
  • ofyn am daliadau mwy aml i denantiaid
  • gweld Trefniadau Talu Amgen (APA) a wneir iddynt
  • newid rhifau cyfeirnod tenantiaeth
  • rheoli eu mynediad defnyddwyr Porth Landlordiaid
  • rheoli a llwytho eu rhestr eiddo

Pwy all ddefnyddio’r Porth Landlordiaid?

Ar hyn o bryd dim ond i denantiaid sy’n gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol , neu hawlwyr presennol ble mae gan denant newid mewn amgylchiadau sydd angen dilysu rhent y mae’r Porth Landlordiaid ar gael. Nid yw ar gael ar gyfer landlordiaid y sector rhentu preifat.

I ddefnyddio’r Porth Landlordiaid mae’n rhaid bod gennych y cyfan o’r canlynol:

  • Stoc dai sy’n cael ei osod drwy gofrestr tai awdurdod lleol neu broses dyrannu sy’n seiliedig ar yr angen fwyaf
  • Stoc dai sy’n cael ei osod ar rent o dan werth y farchnad drwy gofrestr dai
  • Eiddo anghenion cyffredinol fel rhan o’ch stoc dai (nid yw hyn yn cynnwys llety dros dro, a chymorth neu benodol, hosteli neu berchnogaeth wedi’i rannu).

Ni all DWP dderbyn ceisiadau newydd i ymrestru i’r Porth Landlordiaid a Chynllun Partner Ymddiriedig DWP ar hyn o bryd. Os ydych eisoes wedi ymrestru, gallwch barhau i gael mynediad i’r porth fel arfer.

Newidiadau i’r Porth Landlordiaid

Mae DWP yn barhaus yn gwella’r Porth Landlordiaid. Ar hyn o bryd yn Saesneg yn unig mae’r Porth Landlordiaid ar gael, felly bydd y wybodaeth ganlynol sy’n berthnasol i’r dolenni yn Saesneg yn unig. Bydd hysbysiadau am newidiadau i’r gwasanaeth yn cael eu cyhoeddi yma.

Closure of Claim Pending status– llythyr i ddefnyddwyr Porth Landlordiaid Credyd Cynhwysol, 15 Medi 2021

Changes to support arrangements – llythyr i holl ddefnyddwyr Porth Landlordiaid Credyd Cynhwysol, 30 Tachwedd 2020

APA notification (27 Chwefror 2020)

Reset timeout (02 Ionawr 2020)

Closed case removal (05 Awst 2019)

New claim maker (22 Gorffennaf 2019)

Canllaw

Cliciwch ar y dolenni isod i gael mynediad i ganllaw manwl am y Porth Landlordiaid.

Alternative Payment Arrangements (APA) and Arrears Requests – sut i wneud cais am APA neu Ddidyniad Trydydd Parti i adfer ôl-ddyledion

Changing tenancy reference numbers – sut i newid cyfeirnod tenantiaeth neu ychwanegu rhif os nad oes un ar y Porth Landlordiaid

Housing queries routeway – ble i fynd am help

Initial user setup – canllaw i fewngofnodi i’r Porth Landlordiaid

Mergers – beth i’w wneud os yw’ch sefydliad yn uno ag un arall

Payment alignment feature guidance – crynodeb o’r broses ar gyfer talu APA, gan gynnwys sut i weld gwybodaeth am daliadau

Registered Landlord Portal users – rhestr o’r holl landlordiaid sydd wedi cofrestru ar y Porth Landlordiaid

Rent verification – canllawiau i gefnogi Landlordiaid i wirio costau tai tenantiaid

Report tenant housing costs – sut y gall landlordiaid ddiweddaru costau tai

Self help guide – cwestiynau ac atebion cyffredin am ddefnyddio’r Porth Landlordiaid

Uploading property guide – sut i lwytho rhestr eiddo i’r Porth Landlordiaid

User access and control guidance – sut i reoli pwy sydd a mynediad i’r Porth Landlordiaid o fewm eich sefydliad

Newidiadau rhent blynyddol

2021 Annual Rent Changes (12 Mawrth 2021)

Annual Rent Changes information page (27 Ionawr 2021)

Annual Rent Changes Update for April 2021 – lythyr i holl ddefnyddwyr Porth Landlordiaid Credyd Cynhwysol, 11 Ionawr 2021

 


;