Credyd Cynhwysol a landlordiaid

3. Sut y gall landlordiaid helpu eu tenantiaid

Fel landlord, rydych mewn sefyllfa dda i helpu eich tenantiaid i ddeall Credyd Cynhwysol a beth y gallant ei wneud i sicrhau bod eu costau tai yn cael eu talu. Isod mae ychydig o ffyrdd y gallwch eu cefnogi a’u cynghori.

Am fwy o syniadau ar sut y gallwch gefnogi’ch tenantiaid, gweler y canllaw i Helpu tenantiaid gyda Chredyd Cynhwysol

Paratoi ar gyfer Credyd Cynhwysol

Gallwch baratoi ar gyfer Credyd Cynhwysol trwy:

  • ymgyfarwyddo eich hun ar sut y mae Credyd Cynhwysol yn gweithio
  • ystyried a fydd addasu’ch polisïau neu’ch prosesau yn helpu eich tenantiaid i dalu eu rhent ar amser
  • ymgysylltu â’ch tenantiaid yn gynnar i ddechrau asesu eu hanghenion, a sicrhau eu bod yn deall eu cyfrifoldebau a’r cymorth sydd ar gael

Gwneud cais am y budd-dal cywir

Cyfeiriwch eich tenantiaid at gyfrifiannell budd-daliadau i’w helpu i ddeall pa fudd-daliadau y gallent eu cael. Gofynnir iddynt roi gwybodaeth am eu hamgylchiadau, a bydd yn dweud wrthynt ba fudd-daliadau y gallent wneud cais amdanynt. Gallai un o’r rheini fod yn Gredyd Cynhwysol.

Paratoi eich tenantiaid ar gyfer Credyd Cynhwysol

Gall landlordiaid helpu tenantiaid i baratoi ar gyfer Credyd Cynhwysol trwy eu hannog i:

  • Mynd ar-lein. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud cais am a rheoli eu Credyd Cynhwysol ar-lein. Os nad oes gan denantiaid fynediad i’r rhyngrwyd neu nad ydynt yn hyderus wrth ddefnyddio cyfrifiadur, gall y Ganolfan Gwaith ddweud wrthynt am wasanaethau lleol a all helpu.
  • Agor cyfrif sy’n gallu derbyn taliadau. Caiff Credyd Cynhwysol ei dalu i gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd. Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn rhoi awgrymiadau ar ddewis y cyfrif cywir
  • Sefydlu debyd uniongyrchol neu archeb sefydlog. Fel arfer bydd tenantiaid yn gyfrifol am dalu eu rhent eu hunain. Gallai sefydlu taliad awtomatig eu helpu i dalu’n llawn ac ar amser.
  • Ystyried cymorth cyllidebu. Efallai y bydd eich tenantiaid yn gyfarwydd â rheoli eu harian bob mis, ond os na, fydd angen iddynt sicrhau y gallant dalu eu holl filiau o’u taliad sengl. Gallai rheolwr arian ar-lein Helpwr Arian eu helpu i wneud eu harian para’n hirach. Os yw eich tenant yn cael trafferth talu biliau hanfodol oherwydd coronafeirws, mae cyngor y llywodraeth ar dalu biliau yn egluro’r opsiynau sydd ar gael iddynt.
  • Gwneud cais ar unwaith. Mae rhai hawlwyr yn oedi wrth wneud eu cais oherwydd maent yn meddwl y byddant yn symud i mewn i waith yn gyflym. Dylech annog eich tenantiaid i wneud cais cyn gynted ag y bo modd i leihau’r risg y caiff eu taliadau Credyd Cynhwysol eu hoedi.

Os ydych yn landlord sector preifat, gallwch helpu cais eich tenant i redeg yn fwy esmwyth trwy sicrhau bod ganddynt dystiolaeth gyfredol o’u costau tai. Bydd angen iddynt ddarparu hyn cyn y gallant gael unrhyw arian tuag at eu tai.

Beecroft: "Siaradwch â'ch tenantiaid yn gynnar a gwnewch yn siŵr bod ganddynt y dystiolaeth gywir i wirio eu rhent." Jeff Brown, Rheolwr Gosod Eiddo/Tai.

Cadarnhau costau tai’n gyflym

Os ydych yn landlord sector cymdeithasol, gofynnir i chi gadarnhau costau tai eich tenant. Bydd gwneud hyn yn gyflym yn helpu i sicrhau nad oes unrhyw oedi i daliad Credyd Cynhwysol cyntaf eich tenant, a fydd yn eich helpu i gael eich taliad rhent ar amser.

Nid oes rhaid i landlordiaid y sector preifat gadarnhau costau tai – gwneir hyn trwy’r dystiolaeth y mae’r hawlydd yn ei ddarparu.

Trefnu taliadau rhent

Fel arfer bydd hawlwyr yn trefnu eu taliadau rhent eu hunain.

Fel arfer telir Credyd Cynhwysol bob mis, ar yr un dyddiad bob mis. Fel landlord, dylech ystyried sut y bydd hyn yn cyd-fynd â’ch calendrau talu eich hun, ac a fyddai newidiadau i sut a phryd y byddwch yn casglu rhent yn helpu.

Dylech hefyd ystyried lefel y cymorth y gallai fod angen i rai tenantiaid wneud y trosglwyddiad llwyddiannus i un taliad misol uniongyrchol. Mewn rhai sefyllfaoedd, mae’n bosibl y bydd yn briodol talu costau tai Credyd Cynhwysol yn syth atoch chi. Gelwir hyn yn Drefniant Talu Amgen. Yn yr Alban, gall hawlwyr sydd â chyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein ddewis yr opsiwn hwn eu hunain.

Os ydych wedi cael taliad Budd-dal Tai wedi’i reoli o’r awdurdod lleol yn flaenorol, bydd angen i chi siarad â’ch tenant i gytuno ar drefniadau ar gyfer casglu rhent oddi wrthynt. Ni fydd taliadau uniongyrchol i landlord yn cael eu rhoi ar waith yn awtomatig pan fydd rhywun yn symud i Gredyd Cynhwysol.

Efallai y bydd rhai hawlwyr yn gymwys i gael help ychwanegol gyda thalu costau tai trwy daliadau tai dewisol neu ostyngiad yn eu Treth Cyngor Lleol.

Rhoi gwybod am newidiadau

Mae hawlwyr yn gyfrifol am ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eu taliad Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn cynnwys pethau fel newidiadau rhent blynyddol, newidiadau i daliadau gwasanaeth, gwahanu oddi wrth bartner, neu bartner yn symud i mewn.

Os ydych yn gwybod am newidiadau a allai effeithio ar daliad Credyd Cynhwysol eich tenant, gallwch eu helpu trwy eu hatgoffa i roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Os gwneir taliadau Credyd Cynhwysol anghywir oherwydd oedi wrth ddweud am newidiadau, gallai hyn olygu bod taliadau diweddarach yn cael eu lleihau.


;