Credyd Cynhwysol a landlordiaid

2. Beth sydd angen i landlordiaid ei wneud

Fel landlord mae gennych rai cyfrifoldebau i helpu’ch tenant i wneud a rheoli eu cais Credyd Cynhwysol. Dyma ychydig o bethau y gallwch eu gwneud i helpu eu cais i fynd yn esmwyth a helpu i sicrhau eich bod yn cael taliadau rhent yn llawn ac ar amser.

1. Cadarnhau costau tai

Tenantiaid sector preifat

Gallwch helpu eich tenantiaid trwy sicrhau bod ganddynt ddogfennau sy’n gyfoes ac yn gywir.

Os bydd hawlydd yn gwneud cais am gymorth tuag at gostau tai sector preifat fel rhan o’u cais Credyd Cynhwysol, gofynnir iddynt ddarparu prawf o:

  • atebolrwydd i dalu rhent
  • deiliadaeth yr eiddo y maent yn gwneud cais amdano

Os nad oes ganddynt gytundeb tenantiaeth wedi’i lofnodi sy’n dangos y rhent presennol, mae llythyr wedi’i lofnodi gan y landlord neu asiant gosod yn dderbyniol.

Dylai’r dystiolaeth hon gael ei ddarparu gan yr hawlydd yn ystod eu hapwyntiad cyntaf yn y Ganolfan Gwaith. Ni fydd hawlwyr yn cael unrhyw gymorth tuag at gostau tai nes iddynt ddarparu’r prawf hwn. Os nad yw tenant sector preifat wedi darparu’r holl wybodaeth angenrheidiol, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cysylltu â nhw.

Sylwer na fydd landlordiaid sector preifat yn cael gwybod bod eu tenant wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Tenantiaid sector cymdeithasol

Os yw’ch tenant yn gwneud cais am gymorth tuag at gostau tai sector cymdeithasol fel rhan o’u cais Credyd Cynhwysol, gofynnir i chi am fanylion eu costau tai. Sicrhewch fod eich tenant yn gwybod y canlynol pan fyddant yn gwneud eu cais Credyd Cynhwysol:

  • Eu cod post
  • Enw eich sefydliad (neu’ch enw os nad oes enw gan y sefydliad)
  • Eich cyfeiriad post
  • Eich rhif ffôn
  • Eich cyfeiriad e-bost

Os ydych wedi’ch cofrestru ar y Porth Landlord, cewch y cais hwn yno. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau’n cysylltu â landlordiaid y sector cymdeithasol i’w gwahodd i gofrestru ar y Porth Landlord. Gwyliwch landlordiaid y sector cymdeithasol yn esbonio sut mae’r Porth wedi eu helpu:

 

Os nad ydych wedi’ch cofrestru ar y Porth Landlord, anfonir ffurflen wirio tai atoch trwy e-bost.

Bydd angen i chi gadarnhau manylion costau tai eich tenant cyn y gallant gael unrhyw gymorth tuag at eu costau tai trwy Gredyd Cynhwysol. Bydd ymateb yn gyflym yn helpu sicrhau eich bod yn cael taliadau rhent ar amser.

2. Ystyriwch a ddylai rhent gael ei dalu’n syth atoch chi

Mewn rhai achosion lle mae hawlydd yn cael trafferth i reoli eu harian, efallai y bydd yn briodol i’r costau tai Credyd Cynhwysol gael eu talu’n syth i’w landlord.

Gelwir hyn yn Drefniant Talu Amgen. Mae’r canllaw ar Drefniadau Talu Amgen yn rhoi mwy o wybodaeth am y broses a pha denantiaid fydd yn briodol ar gyfer hynny.

Gall pob landlord wneud cais am dalu rhent yn uniongyrchol o ddechrau cais Credyd Cynhwysol gan ddefnyddio’r gwasanaeth Gwneud Cais am Daliad Rhent Uniongyrchol (ADRP). Mae ADRP yn wasanaeth ar-lein newydd i landlordiaid ofyn am daliadau uniongyrchol o rent neu ôl-ddyledion rhent. Mae’n disodli’r broses UC47.

Os cawsoch daliad Budd-dal Tai a reolir gan y cyngor lleol, dylech sicrhau eich bod yn ymgyfarwyddo â’r broses ar gyfer Trefniadau Talu Amgen. Ni fydd taliadau uniongyrchol i landlord yn cael eu rhoi ar waith yn awtomatig pan fydd rhywun yn symud i Gredyd Cynhwysol. Fodd bynnag, os yw tenant yn dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau bod eu Budd-dal Tai wedi cael ei dalu’n uniongyrchol i’w landlord, gellir parhau â hyn o ddechrau eu cais Credyd Cynhwysol os oes angen y cymorth hwn ar yr hawlydd.

3. Deall sut i ddatrys problemau

Mae’r Llwybr Ymholiadau Tai yn darparu arweiniad ar sut i ddatrys ymholiadau gan landlordiaid am Gredyd Cynhwysol. Mae’n cynnwys dolenni i wybodaeth ar-lein yn ogystal â rhifau ffôn am gymorth arbenigol.

Yn y rhan fwyaf o achosion dylech geisio datrys unrhyw faterion cais neu dalu gyda’ch tenant. Fel arfer byddant yn gallu codi a mynd i’r afael â hwy trwy eu dyddlyfr Credyd Cynhwysol ar-lein.

Os nad yw hyn yn bosib neu os yw’r mater yn parhau heb ei ddatrys, gallwch ffonio’r Ganolfan Gwasanaethau Credyd Cynhwysol ar 0800 328 1744. Unwaith y byddwch wedi ateb ychydig o gwestiynau am eich tenant, gallwch fynd ar unwaith at y rheolwr achos perthnasol.

Fel rheol bydd angen caniatâd eglur gan yr Adran Gwaith a Phensiynau gan yr hawlydd cyn siarad â landlord neu drydydd parti arall am eu cais. Gall yr hawlydd ddarparu hwn trwy eu dyddlyfr ar-lein neu drwy alw’r Ganolfan Gwasanaethau Credyd Cynhwysol. Bydd angen iddynt ddarparu:

  • Enw cyswllt yn eich sefydliad
  • Enw eich sefydliad
  • Manylion cryno am y mater

Os oes taliad rhent uniongyrchol i’r landlord ar waith, gall rheolwr achos siarad â landlord am y taliad heb yr angen am y caniatâd hwn.

I gael mwy o wybodaeth, gweler Caniatâd Credyd Cynhwysol a datgelu gwybodaeth

Os yw’r mater ar frys neu’n dal heb ei ddatrys, dylech gysylltu â’ch Canolfan Gwaith leol. Gall y rheolwr partneriaeth helpu gydag ymholiadau cyffredinol, a bydd arweinydd y tîm anogwyr gwaith yn delio â materion sy’n ymwneud â hawlwyr. Cewch wybodaeth ar sut i gysylltu â nhw trwy e-bostio timau partneriaeth DWP

Curo: "Mae adeiladu cysylltiadau cryf â'n Rheolwr Partneriaeth DWP yn golygu y gallwn weithio gyda'n gilydd i ddatrys achosion Credyd Cynhwysol cymhleth yn gyflymach." Emma Owens, Uwch Reolwr Cyfrifon Cwsmer.

4. Darllenwch y canllawiau ar gyfer landlordiaid

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y canllawiau ar gyfer Credyd Cynhwysol a landlordiaid. Mae’n cynnwys canllaw manwl ar:

  • Tai rhent
  • Taliadau gwasanaeth
  • Datgelu
  • Rhoi gwybod am newidiadau i gyfraddau sector rhent cymdeithasol
  • Costau Tai ar gyfer pobl 18 i 21 oed
  • Cymorth cyllidebu personol a Threfniadau Talu Amgen

5. Helpwch eich tenant i baratoi

Paratowch eich tenant ar gyfer Credyd Cynhwysol trwy gynnal trafodaethau am dalu rhent sicrhau eu bod yn deall sut y mae taliadau Credyd Cynhwysol yn gweithio. Gweler Sut y gall landlordiaid helpu eu tenantiaid am ffyrdd i’w cynorthwyo a’u cynghori.


;