CYMORTH ARIANNOL I’R RHAI SY’N DIANC RHAG Y GWRTHDARO YN WCRÁIN
Gall pobl sy’n cyrraedd y DU o Wcráin oherwydd ymosodiad Rwsia wneud cais am gymorth ariannol ar unwaith a chael cymorth ychwanegol i ddod o hyd i waith.
Os oeddech chi’n byw yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022 ac yn dianc rhag ymosodiad Rwsia ar Wcráin, gallwch chi a’ch teulu wneud cais am fudd-daliadau o’r diwrnod y byddwch yn cyrraedd y DU.
Cliciwch y dolenni isod i gael gwybod mwy am bob budd-dal, gan gynnwys sut y gallwch wneud cais ac a allwch fod yn gymwys. Bydd angen i chi hefyd fod â statws mewnfudo cymwys.
- Credyd Cynhwysol – gallai hyn eich cefnogi os ydych ar incwm isel, yn ddi-waith neu’n methu gweithio oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd.
- Budd-dal Tai – os ydych dros 66 oed ac yn byw mewn llety ar rent, gall hyn eich helpu i dalu’ch rhent os ydych ar incwm isel, neu’n hawlio budd-daliadau.
- Credyd Pensiwn – os ydych dros 66 oed, sef oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gall hyn roi arian ychwanegol i chi i helpu gyda’ch costau byw os ydych ar incwm isel.
- Budd-daliadau Anabledd a Gofalwyr, gan gynnwys:
- Taliad Annibyniaeth Bersonol – mae hyn yn helpu gyda chostau byw ychwanegol os oes gennych gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol hirdymor neu anabledd sy’n achosi anhawster gyda thasgau bob dydd neu symud o gwmpas.
- Lwfans Byw i’r Anabl Plant – gall hyn helpu gyda chostau ychwanegol byw gyda phlentyn sydd o dan 16 oed ac sydd angen gofal ychwanegol neu sydd ag anawsterau cerdded.
- Lwfans Gweini – os ydych dros 66 oed ac os oes gennych anabledd meddyliol corfforol, gallai hyn helpu gyda chostau ychwanegol eich gofal.
- Lwfans Gofalwr – efallai y gallwch hawlio hyn os ydych yn gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos
I gael gwybod mwy am yr ystod lawn o fudd-daliadau y gallech fod yn gymwys i’w cael, ewch i:
- Newydd i Gredyd Cynhwysol
- GOV.UK am wybodaeth am fudd-daliadau eraill
Mae gwasanaethau cyfieithu ar gael i helpu pobl gyda cheisiadau ffôn, a gall Anogwyr Gwaith yng Nghanolfan Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau gefnogi pobl sy’n gwneud ceisiadau ar-lein.
Mae staff yr Adran Gwaith a Phensiynau hefyd yn darparu cymorth wyneb yn wyneb ychwanegol i’r rhai sydd ei angen – gan gynnwys cymorth i ddod o hyd i waith a chyngor ar hawlio budd-daliadau – a byddant yn parhau i wneud hynny.
UNIGOLION SY’N DAL I FOD YN WCRÁIN
Dylai unigolion sy’n dal yn Wcráin ar hyn o bryd ac sy’n methu dychwelyd i’r DU wirio’r canllawiau gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad a Datblygu.
Os ydych yn derbyn budd-dal ar hyn o bryd ac yn methu â dychwelyd i’r DU, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ceisio mabwysiadu dull hyblyg a dealladwy a dylech gysylltu â’ch Anogwr Gwaith, y llinell gymorth budd-dal anabledd berthnasol, neu’r Awdurdod Lleol perthnasol ar gyfer budd-dal tai i gael cyngor pellach.