
1. Beth yw Credyd Cynhwysol?
Mae Credyd Cynhwysol yn helpu i sicrhau eich bod yn cael y cymorth ariannol y mae gennych hawl iddo mewn un lle.
Mae’n disodli chwe hen fudd-dal – credyd treth plant, credyd treth gwaith, budd-dal tai, cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA) a lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA) – gyda system fodern.
Gallwch gael cymorth cyllidebu i’ch helpu i wneud y newid i Gredyd Cynhwysol, a gallech wneud cais am daliad ymlaen llaw i gael mynediad at arian yn gyflymach, i helpu i gadw popeth ar y trywydd iawn.
Os ydych yn rhiant sy’n gweithio, yn dibynnu ar eich incwm, gallech hefyd gael help gyda hyd at 85% o’ch costau gofal plant gyda Chredyd Cynhwysol.