Mae credydau treth yn dod i ben a byddant yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol erbyn 2024.

Mae credydau treth yn dod i ben a byddant yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol erbyn 2024.

Bydd pobl sydd ar gredydau treth yn cael eu symud i Gredyd Cynhwysol erbyn 2024. Os byddwch yn dewis gwneud cais yn gynt, mae’n bwysig cael cyngor annibynnol cyn i chi wneud gan na fyddwch yn gallu mynd yn ôl i gredydau treth neu unrhyw fudd-daliadau eraill y mae Credyd Cynhwysol yn eu disodli. Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol.

Oeddech chi’n gwybod?

Gallai llawer o hawlwyr credyd treth fod yn well eu byd yn ariannol ar Gredyd Cynhwysol.

Gallech chi fanteisio ar hyn trwy ddewis gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn gynt os ydych yn meddwl ei fod yn iawn i chi.

Gallwch wirio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol i weld a allech fod yn well eich byd ar Gredyd Cynhwysol.

Fel arall, byddwch yn cael eich symud drosodd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau erbyn 2024.

Os bydd eich amgylchiadau’n newid, efallai y bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol beth bynnag, oherwydd nid yw’r budd-daliadau y mae Credyd Cynhwysol yn eu disodli bellach ar agor ar gyfer ceisiadau newydd.

Dyma ychydig o bwyntiau i’ch help u benderfynu.


;