Credyd Cynhwysol a landlordiaid

1. Beth mae Credyd Cynhwysol yn ei olygu i landlordiaid

Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar yr agweddau hynny o Gredyd Cynhwysol sy’n fwyaf perthnasol i landlordiaid. I gael rhagor o fanylion am elfennau penodol, neu i ddarganfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio o safbwynt tenant, gweler yr adran Newydd i Gredyd Cynhwysol

Am drosolwg o’r prif bethau mae angen i landlordiaid wybod gweler Credyd Cynhwysol: Awgrymiadau gorau i landlordiaid

Sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio

Mae Credyd Cynhwysol ar gyfer pobl sydd ar incwm isel neu’n ddi-waith. Fel arfer, fe’i telir fel un taliad misol i gartref gyfan, a gall gynnwys cymorth tuag at gostau tai. Fe’i telir fel rheol yn uniongyrchol i hawlwyr, ac mae’n gyfrifoldeb iddynt dalu eu rhent eu hunain.

Mae swm y Credyd Cynhwysol mae eich tenant yn ei gael yn dibynnu ar eu hamgylchiadau unigol. Mae’r union swm yn cael ei gyfrifo bob mis calendr.

Gall pobl barhau i gael Credyd Cynhwysol hyd yn oed pan fyddant yn gweithio, yn dibynnu ar eu henillion. Bydd swm y Credyd Cynhwysol y byddant yn eu cael yn ymateb yn awtomatig i newidiadau yn eu henillion. Os yw eu henillion yn codi, gall hyn leihau eu taliad Credyd Cynhwysol.

Yn yr Alban, gall hawlwyr sydd â chyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein ddewis talu eu costau tai yn syth i’w landlord. Gallant hefyd ddewis cael taliadau Credyd Cynhwysol ddwywaith y mis os yw’n well ganddynt.

Faint mae tenantiaid yn ei gael tuag at eu costau tai

Gweler yr adran Tai am esboniad llawn o’r hyn y bydd hawlwyr Credyd Cynhwysol yn ei gael tuag at eu costau tai. Yn y rhan fwyaf o achosion:

Bydd tenantiaid sector preifat yn cael pa un bynnag sy’n is o’u costau tai gwirioneddol a’r gyfradd Lwfans Tai Lleol perthnasol.

Bydd tenantiaid sector cymdeithasol yn cael eu costau tai gwirioneddol, yn llai unrhyw ostyngiadau ar gyfer ystafelloedd gwely sbâr (gostyngiad o 14% ar gyfer un ystafell wely sbâr, 25% am 2 neu fwy). Mae rhai eithriadau: gweler y daflen ffeithiau ar Ddileu’r Cymhorthdal ​​Ystafell Sbâr

Gall Credyd Cynhwysol helpu tuag at rai taliadau gwasanaeth, ond bydd angen darparu tystiolaeth o’r costau hyn.

Mae’n bwysig nodi na fydd y swm y mae hawlydd yn ei gael bob amser yn talu am eu rhent cyfan.

Er enghraifft, os yw eu rhent sector preifat yn fwy na’r gyfradd Lwfans Tai Lleol perthnasol, bydd angen iddynt dalu’r gwahaniaeth eu hunain. Ac efallai y bydd tenantiaid yn y sector cymdeithasol sydd ag ystafell wely sbâr yn gweld gostyngiad yn y swm y maent yn eu cael tuag at dai – unwaith eto, bydd yn rhaid iddynt dalu’r gwahaniaeth.

Os yw hawlydd mewn gwaith, gall hyn leihau eu taliad Credyd Cynhwysol. Nid yw’r swm y maent yn eu cael tuag at dai wedi’i ddiogelu, felly os yw eu taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau, mae’n debyg y bydd angen iddynt ddefnyddio rhai o’u henillion i dalu’r gwahaniaeth.

Taliad Budd-dal Tai Ychwanegol

Os cafodd hawlydd Budd-dal Tai hyd at y dyddiad y gwnaethant gais am Gredyd Cynhwysol, bydd eu Budd-dal Tai yn parhau am 2 wythnos gyntaf eu cais Credyd Cynhwysol newydd. Gwneir y taliad yn awtomatig – nid oes angen i’r rhan fwyaf o hawlwyr gysylltu â’u hawdurdod lleol ynglŷn â hyn. Fodd bynnag, os ydynt wedi symud cartref, dylent gysylltu â’r awdurdod lleol a dalodd eu Budd-dal Tai i sicrhau bod ganddynt y manylion cywir i wneud y taliad. Os talwyd Budd-dal Tai yn uniongyrchol i landlord ac nad yw’r hawlydd wedi symud cartref, bydd y taliad olaf hwn yn mynd i’r landlord hynny.

Yn dilyn y taliad olaf hwn, fel arfer bydd Budd-dal Tai yn dod i ben pan gymeradwyir y cais Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn digwydd yn awtomatig – ni fydd angen i’r hawlydd ddweud wrth eu cyngor lleol eu bod yn symud i Gredyd Cynhwysol.

Llety dros dro, â chymorth neu gysgodol

Os yw hawlydd yn byw yn:

  • llety dros dro oherwydd bod y cyngor lleol wedi eu gosod yno oherwydd digartrefedd
  • llety â chymorth, neu
  • llety cysgodol

ni fyddant yn cael unrhyw beth tuag at eu costau tai trwy Gredyd Cynhwysol. Yn lle hynny bydd angen iddynt wneud cais am Fudd-dal Tai

Gall pobl yn y sefyllfa hon parhau i gael Credyd Cynhwysol i helpu gyda’u costau eraill.

Mae nifer fach o bobl a fydd eisoes yn cael cymorth gyda chostau tai llety dros dro trwy Gredyd Cynhwysol. Os bydd rhywun yn cael hyn, bydd yn parhau hyd nes y bydd y swm o rent y maent yn ei dalu’n newid. Pan fydd hynny’n digwydd bydd angen iddynt wneud cais am Fudd-dal Tai yn ogystal â Chredyd Cynhwysol, ac ni fydd eu taliad Credyd Cynhwysol bellach yn cynnwys swm tuag at dai.

Pryd y bydd costau tai yn cael eu hasesu

Fel arfer telir Credyd Cynhwysol fel un taliad misol. Caiff y swm y mae rhywun yn ei gael ei gyfrifo bob mis calendr, ac mae’n dibynnu ar eu hamgylchiadau yn ystod eu cyfnod asesu blaenorol.

Mae cyfnod asesu cyntaf yr hawlydd yn dechrau ar y dyddiad y maent yn gwneud eu cais. Mae’n rhedeg am un mis calendr, a bydd yr hawlydd yn cael ei daliad cyntaf 7 diwrnod ar ôl iddo ddod i ben. Bydd pob cyfnod asesu dilynol yn dechrau ar yr un dyddiad y mis (e.e. y 13eg), yn gorffen ar yr un dyddiad y mis (e.e. y 12fed), a gwneir pob taliad ar yr un dyddiad y mis (e.e. y 19eg).

Cyfrifir cymorth tai’r hawlydd ar ddiwrnod olaf eu cyfnod asesu. Pa bynnag yr amgylchiadau sydd ar waith ar y dyddiad hwnnw byddant yn cael eu hystyried ar gyfer y cyfnod asesu cyfan.

Felly, os bydd hawlydd yn symud allan o’ch eiddo yn ystod eu cyfnod asesu, bydd y swm a gânt mewn costau tai yn adlewyrchu eu sefyllfa ar ddiwedd y cyfnod asesu hwnnw. Mae hyn yn golygu, os na fyddant yn talu unrhyw rent ar y pwynt hwnnw, ni fyddant yn cael unrhyw gymorth tuag at gostau tai am y mis hwnnw.

Dylech sicrhau bod eich tenant yn ymwybodol o hyn fel y gallant wneud trefniadau i dalu unrhyw rent sy’n ddyledus.

Help i dalu costau tai

Yn y rhan fwyaf o achosion telir Credyd Cynhwysol i’r hawlydd, ac mae’n rhaid iddynt dalu eu rhent eu hunain. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau gellir talu costau tai yn syth i’r landlord, os oes angen hyn i helpu hawlydd rheoli costau eu cartref. Yn yr Alban, gall hawlwyr sydd â chyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein ddewis yr opsiwn hwn eu hunain. I gael mwy o wybodaeth, gweler Beth sydd angen i landlordiaid ei wneud

Os nad yw taliad Credyd Cynhwysol yr hawlydd yn cwmpasu eu holl gostau tai efallai y gallent gael help ychwanegol gan y cyngor lleol trwy daliad tai dewisol

Efallai y bydd hawlwyr Credyd Cynhwysol hefyd yn gymwys am ostyngiad yn eu Treth Cyngor Lleol. Gallant ddechrau’r broses i wneud cais am Gostyngiad Treth Cyngor Lleol ar GOV.UK. Bydd yn mynd â nhw at wefan eu cyngor lleol, a fydd yn dweud wrthynt beth sydd angen iddynt ei wneud.

Dylai hawlwyr Credyd Cynhwysol newydd wneud cais am ostyngiad yn y Dreth Gyngor Lleol ar unwaith, gan na fydd llawer o gynghorau lleol yn ei ôl-ddyddio. Nid oes angen iddynt aros hyd nes bod eu cais am Gredyd Cynhwysol wedi’i gymeradwyo neu ei dalu.

Mae’r canllaw am rentu a Chredyd Cynhwysol ar gyfer landlordiaid ac asiantau gosod, ac mae’n tynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael i helpu hawlwyr i dalu eu rhent ar amser ac yn llawn.

Gwyliwch y fideo hwn am drosolwg o’r hyn y mae angen i landlordiaid wybod am Gredyd Cynhwysol a beth allwch ei wneud i gefnogi a chynghori eich tenantiaid:


;